Arweiniad i Cymru Cymraeg. A guide to Welsh Wales.

Beicio Cymru Cymraeg. Cycling Welsh Wales.

, , ,

Pa ffordd well i dod i adnabod Cymru Cymraeg nag ar gefn beic? Mae Gogledd Orllewin Cymru yn gadarnle i’r iaith Cymraeg, a hefyd yn digwydd bod yn gartref i rhai o’r ffyrdd beicio gorau yn y byd.

What better way to get to know Welsh Wales than on a bike, cycling your way through the landscapes of Northwest Cymru, a stronghold of Cymraeg culture, and which just happens to have some of the finest cycling in the world.

Lôn Las Ogwen, Lôn Menai, Lôn Eifion

Ar gyfer: Dechreuwyr a teuluoedd anturus. 1-20 milltir.

Be am cyfuno dri o lwybrau beicio gorau Eryri i fewn i un siwrnai anhygoel trwy hanes a diwylliant y rhan yma o Gymru? Mae’r tri ffordd yn eitha fflat (wel, mor fflat a gall fod yn y rhan yma o’r byd!) a bron yn gyfangwbl ar llwybrau distaw, ac felly’n siwtio teuluoedd a dechreuwyr.

Mae’r ffyrdd yn cynnwys tirwedd mynyddig anhygoel (Nant Ffrancon), cymunedau chwareli llechi (Bethesda), dinas prifysgol (Bangor), harbwr (Felinheli), tref hardd a chastell (Caernarfon), ac yn gorffen ger Lon Goed R. Williams Parry yn Eifionydd.

Suitable for: Beginners and adventurous families. 1-20 miles.

How about combining three of Eryri’s finest bike routes into one incredible journey through the history and culture of this corner of Cymru? The three routes are fairly flat (well, as flat as they can be in this part of the world!) and almost totally car-free, therefore suitable for families and beginners.

The routes include mountain landscapes (Nant Ffrancon), a slate mining community (Bethesda), a University city (Bangor), a harbour (Felinheli), a beautiful town with spectacular castel (Caernarfon), and ends near to poet R. Williams Parry’s ‘Lôn Goed’ (a spectacular wooded lane) immortalised in his poem ‘Eifionydd’.

Coed-y Brenin, Gwydir Bach a Mawr (aka Marin Trail), Penmachno

Ar gyfer: Beicwyr mynydd. 5-20 milltir.

Coed-y-Brenin oedd canolfan beicio mynydd gynta’r byd, nol yn y 90au. Yn ogystal a’r canolfan ysblenydd hwn, mae na nifer eraill o lwybrau beicio mynydd yn Eryri yn cynnwys Gwydir ger Betws-y-Coed, a Penmachno. Maent yn cynnwys llwybrau hawdd (gwyrdd a glas) ac anodd (coch a du). Rhywbeth i pawb.

Suitable for: Mountain bikers. 5-20 miles.

Coed-y-Brenin (King’s Wood) was the first organised mountain bike trail centre in the world, back in the 1990s. In addition to this splendid centre, Eryri also boasts several other trails including Gwydir near Betws-y-Coed, and Penmachno. They include everything from easy trails (green and blue) to hard (red and black). Something for everyone.

Ffordd Dave Brailsford

Ar gyfer: Beicwyr ffordd. 50 & 75 milltir.

Roedd Dave Brailsford, siaradwr Cymraeg rhugl o Ddeiniolen, yn gyfrifol am helpu Team Sky ennill y Tour de France 7 gwaith mewn 8 mlynedd rhwng 2012 a 2019 – camp anhygoel. Mae’r ddau ffordd yma yn seiliedig ar ffyrdd ymarfer Dave pan oedd yn ddyn ifanc, ac yn eich tywys trwy tirluniau anhygoel Eryri ar hyd ffyrdd cyflym ond nid rhy brysur.

Suitable for: Road cyclists. 50 & 75 miles.

Anyone into bike racing in Britain will have heard of Dave Brailsford, who steered Team Sky to win the Tour de France an astonishing 7 times in 8 years between 2012 and 2019. Very few people realise that Dave was born in Deiniolen near Llanberis, and is a fluent Cymraeg speaker! These two routes are based on Dave’s training routes when he was a young wannabee pro, and take you through the most amazing landscapes along fast but not overly busy roads.

Traws Eryri

Ar gyfer: Beicwyr mynydd a graean canolradd ag uwch. 200km fros 3-5 diwrnod.

Taith aml-ddiwrnod anhygoel ar draws Eryri, o Fachynlleth yn y de i Gonwy yn y gogledd, dros 3-5 diwrnod, gymysgedd o oddi ar y ffordd a ffyrdd bach distaw gwledig. Mae’n sialens, yn enwedig os yw’r tywydd yn drwg, ond does dim ffordd gwell i dod i adnabod Eryri ar feic!

Suitable for: Intermediate and advanced mountain bikers and gravel cyclists. 200km over 3-5 days.

A glorious multi-day traverse of Eryri (Traws Eryri means Trans Eryri), from Machynlleth in the south to Conwy in the north, in anything from 3-5 days, on a mixture of offroad and quiet lanes. It’s a challenge, particularly in bad weather, but there is no better way to get to know Eryri on a bike!

Beics i’w benthyg / Bikes for hire