Arweiniad i Cymru Cymraeg. A guide to Welsh Wales.

Faint o…? Cymraeg mewn rhifau. How many…? Cymraeg in numbers.

,

Faint o bobol sy’n siarad Cymraeg?

Mae gan Llywodraeth Cymru targed o cyrraedd 1 miliwn siaradwr erbyn 2050.

Y cam rhesymegol cyntaf i gyrraedd y targed hwn yw cyfri faint o siaradwyr Cymraeg sydd ar hyn o bryd. Mae hyn yn haws dweud na gwneud…

  • Yn ôl Cyfrifiad 2021 mae 538,000
  • Yn ôl Arolwg Poblogaeth 2024 mae 851,700

BTFf… pam mae gwahaniaeth mor fawr?! Yn bennaf, oherwydd dulliau cyfri ac ansawdd data.

Serch hynny, mae’n ymddangos yn syfrdanol y gall y ddau rif fod mor wahanol. Nid yw’r gwahaniaeth rhwng y ddwy ffynhonnell ddata wedi’i egluro’n ddigonol eto, ac mae’r Llywodraeth yn edrych ar ffyrdd o wella’r cyfrifiadau hyn.

Dim ond ar gyfer Cymru y mae’r niferoedd hyn. Amcangyfrifir bod hefyd dros 100,000 o siaradwyr Cymraeg yn Lloegr, a 10,000 mewn mannau eraill yn y byd.

Canran(%) o poblogaeth Cymru sy’n siarad Cymraeg

Mae canran y siaradwyr wedi gostwng o 18.6% (Cyfrifiad 2011) i 17.8% (Cyfrifiad 2021). Fodd bynnag, mae cyfanswm y siaradwyr mewn gwirionedd yn uwch nag yn 1981 neu 1991, oherwydd cynnydd ym mhoblogaeth y wlad. Ym 1911 roedd bron i filiwn o siaradwyr Cymraeg. Erbyn 1981 roedd hyn wedi haneru i 500,000. Ers hynny mae’r nifer wedi amrywio rhwng 500,000-600,000.

Ble mae’r Gymraeg yn cael ei siarad fwyaf?

Yn hanesyddol, mae’r iaith Cymraeg wedi cael ei siarad fwyaf yng ngorllewin y wlad. Y rheswm syml am hyn yw daearyddiaeth – yr ardaloedd gorllewinol sy’n cael eu heffeithio leiaf gan yr iaith Saesneg sy’n lledaenu, gan wthio’r iaith o’r ffordd wrth iddi ymledu ar draws y wlad.

Gwynedd (64%), Ynys Môn (56%) a Cheredigion yn y gorllewin yw’r siroedd sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg. Gwynedd ac Ynys Môn yr unig rai erbyn hyn gyda dros hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg. Ond mae’r siroedd hyn hefyd yn denau iawn eu poblogaeth, sy’n golygu bod bron cymaint o siaradwyr Cymraeg yn y brifddinas Caerdydd (78,000) ag sydd yng Ngwynedd (89,000). Dryslyd!

Ydy’r Gymraeg yn marw, yn wneud yn wych, neu be

Dim un o’r uchod. Er bod gostyngiad araf wedi bod yn y canrannau, mae nifer y siaradwyr wedi aros yn weddol gyson ers 1981.

Yr hyn sy’n digwydd yw bod newid sylweddol ym mhle mae’r iaith yn cael ei siarad. Mae ardaloedd gwledig fel Gwynedd, cadarnle hanesyddol i’r iaith, yn colli siaradwyr, ac mae llefydd fel Caerdydd yn ennill siaradwyr. Os bydd y tueddiadau hyn yn parhau, byddwn yn y pen draw yn gweld y Gymraeg yn dod yn iaith drefol yn bennaf, rhywbeth nad yw erioed wedi bod o’r blaen.

Peth arall sy’n digwydd yw bod gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y cymunedau â chanrannau uchel o siaradwyr Cymraeg. Yn y gorffennol, byddai bywyd wedi cael ei byw yn y Gymraeg, ac mae hyn yn dod yn llai gwir. Mae rhai sylwebyddion ac ymgyrchwyr iaith wedi dweud bod hyn yn beth drwg iawn, gan ei fod yn golygu colli’r Gymraeg fel iaith fyw, bob dydd. Mae plant a fyddai wedi chwarae yn y Gymraeg heb ail feddwl, bellach yn chwarae yn Saesneg.

Mae rhai ymchwilwyr yn crybwyll 70% Cymraeg fel y ‘pwynt troi’; o dan y canran hwn mae cymunedau yn dechrau troi i ddefnyddio Saesneg fel y brif iaith.

Os ydych chi eisiau drysu’ch hun ymhellach, dyma erthygl yn Nation.cymru.


How many people speak Cymraeg?

The Welsh Government has a target of reaching 1 million Cymraeg speakers by 2050.

The first logical step to reaching this target is to count how many Cymraeg speakers we currently have. This is easier said than done…

  • According to the 2021 Census there are 538,000
  • According to the 2024 Population Survey there are 851,700

Wtf… why is there such a huge difference?! It’s mostly due to methods and data quality.

Still, it seems staggering that the two numbers can be so different. The difference between the two data sources has not yet been explained sufficiently, and the Government is looking into ways of improving these counts.

These numbers are just for Cymru. It’s estimated there are over 100,000 Cymraeg speakers in England, and 10,000 elsewhere in the world.

Percentage (%) of Cymru’s population who speak Cymraeg

  • The percentage of speakers has decreased from 18.6% (2011 Census) to 17.8% (2021 Census). However, the total number of speakers is actually higher than 1981 or 1991, due to an increase in the population of the country.
  • In 1911 there were almost a million Cymraeg speakers. By 1981 this had halved to 500,000. Since then the number has fluctuated between 500,000-600,000.

Where is Cymraeg spoken the most?

Historically, Cymraeg has been spoken most in the west of the country. The simple reason for this is geography – the western areas are least affected by the encroaching English language, bulldozing Cymraeg out of the way as it rampages across the country.

Gwynedd (64%), Ynys Môn (56%) and Ceredigion in the west are the counties with the highest percentage of Cymraeg speakers. Gwynedd and Ynys Môn the only areas by now where more than half the population speak Cymraeg. But these counties are also very sparsely populated, meaning that there are almost as many Cymraeg speakers in the capital city Caerdydd (78,000) as there are in Gwynedd (89,000). Confusing!

Is Cymraeg dying, having a resurgence, or what?

None of the above. Although there’s been a slow decline in the percentages, the number of speakers has remained fairly steady since 1981.

What is happening is there’s a significant change in where the language is spoken. Rural areas like Gwynedd, a historic stronghold of the language, are losing speakers, and places like Caerdydd are gaining speakers. If these trends continue, we’ll eventually see Cymraeg become a predominantly urban language, which it has never been before.

Another thing that’s happening is there’s been a significant decrease in the number of communities with high percentages of Cymraeg speakers. In the past, life would have been carried out in Cymraeg, and this it seems is becoming less the case. Some language commentators and activists have said this is a very bad thing as it means the loss of Cymraeg as a living, every day language. Kids who would have played in Cymraeg without a second thought, are now playing in English. Some researchers mention 70% Cymraeg as being a ‘tipping point’, below which communities start turning to English.

If you want to confuse yourself more, here’s an article in Nation.cymru.

Discover more from BOB DIM

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading