
Gwyl blynyddol o gerddoriaeth canol-y-ffordd Cymreig.
Beth bynnag yw eich barn am cerddoriaeth canol-y-ffordd Cymraeg (ac mae gen i farn!), does dim amheuaeth ei fod wedi bod yn genre hynod o boblogaidd ymysg y Cymry dros y blynyddoedd. Gellir dadlau mae canol y ffordd ydi cerddoriaeth y werin bobol – ein ‘country and western’ ni, gyda dylanwadau yn cynnwys roc, pop ac ein hen tradoddiadau gwerin.
Mae Roc Y Ddôl yn un o nifer o wyliau drwy Cymru sy’n rhoi llwyfan i’r artistiaid hyn ac yn denu cynulleidfaon mawr a selog o bob oed – pawb o plant yn eu harddegau hyd at dy nain. Yn ddiweddar mae’r gwyl wedi cynnwys perfformiadau gan arwyr lleol Celt, yr hynod boblogaidd Bwncath, a’r chwedlonol Bryn Fôn.
Mae’r ŵyl yn cymryd lle ar gaeau rygbi Dôl Ddafydd ym Methesda, gyda mynyddoedd Eryri yn gefndir gwych i atmosffer arbennig ar noson braf o haf.
Annual festival of Cymraeg language middle of the road music.
Whatever your opinion of Cymraeg middle-of-the-road music (and I’ve got an opinion!), there is no doubt that this genre has been incredibly popular amongst the Cymry over the years. It could be argued that middle-of-the-road is the music of the ordinary people – our ‘country and western’, with influences including rock, pop and our old folk traditions.
Roc Y Ddôl is one of a number of festivals throughout Cymru that gives a stage to these artists and which attracts a large and ardent crowd of all ages – everyone from teenage kids to your nain. Recent editions have seen performances by local heroes Celt, the currently very popular Bwncath, and the legend that is Bryn Fôn.
The festival takes place on the rugby fields of Dôl Ddafydd in Bethesda, the Eryri mountains a spectacular backdrop to a special atmosphere on a sunny summer evening.
- Ble/where: Clwb Rygbi Bethesda, Dôl Ddafydd, Bethesda.
- Dyddiad/date: Diwedd Mehefin.
- instagram.com/rocyddol
