Arweiniad i Cymru Cymraeg. A guide to Welsh Wales.

Cerdded Cymru Cymraeg. Walking Welsh Wales.

, , , ,

Pa ffordd well i dod i adnabod Cymru Cymraeg nag ar droed? Mae Gogledd Orllewin Cymru yn gadarnle i’r iaith Cymraeg, a hefyd yn digwydd bod yn gartref i rhai o’r llwybrau cerdded gorau yn y byd.

What better way to get to know Welsh Wales than by foot, walking your way through the landscapes and the culture? Northwest Cymru is a stronghold of Cymraeg culture, and just happens to have some of the finest walking in the world.

Am dro byr a hawdd / Easy short walks

  • Cwm Idwal – Os oes gennych chi blant ifanc, teulu hen, neu dim digon o amser, be am fynd am dro byr o Lyn Ogwen i fyny at Cwm Idwal. A short uphill walk suitable for young kids and older family members.
  • Capel Curig – Am dro o amgylch pentre hardd Capel Curig, a mwynhau’r olygfa odidog o’r Wyddfa a’i chriw. A walk around this beautiful village, enjoying an incredible view of Yr Wyddfa.
  • Chwarel Dinorwig – Am dro bach trwy tirlun arallfydol. A short walk through an astonishing slate quarry landscape.

Cerdded dydd / Day walks

  • Yr Wyddfa – Bob blwyddyn mae miloedd ar filoedd o bobol yn cerdded i fyny’r Wyddfa ar hyd llwybr Llanberis, llwybr Pen Y Gwryd, neu llwybr y Mwynwyr. Ond mae hefyd tair llwybr arall i fyny’r mynydd, sydd yn llawer mwy distaw a llawer fwy o hwyl – Rhyd Ddu, Watkin, a Snowdon Ranger. Everybody wants to go up Yr Wyddfa – it’s a right of passage, especially for those who aren’t habitual mountain walkers. The busy paths (the Llanberis path, PYG track, and Miners track) can get hectic in the summer. Take one of the other three ways up – Rhyd Ddu, Watkin path, or Snowdon Ranger path – which are much quieter and much more fun.
  • Tryfan – Un o’r goreuon – seren mynyddoedd Eryri. Y ffyrdd haws yw ar hyd Llwybr Y Gwregys neu heibio Llyn Bochlwyd; os am sialens ewch i fyny’r Crib Gogleddol gyda gofal. One of the best – the rock star of Eryri mountains. The easiest ways up are via Llwybr Y Gwregys (Heather Terrace) a Llyn Bochlwyd; if you’re up for a challenge go up the North Ridge, but take care as this route is steep, hard, and the ‘path’ can be easily missed.
  • Yr Eifl – mae’n cymryd llai nag awr i cerdded i fyny’r Eifl o’r B4417 neu o Llithfaen. Ar y top ceir golygfeydd gwych o Eryri a’r môr, a bron iawn neb arall yna! It takes under an hour to walk up Yr Eifl in Llyn. From the top there are wonderful views of Eryri and the sea, and hardly any other people!
  • Y Carneddau – 200 cilomedr sgwar distaw a gwag, mae’r Carneddau yn un o gyfrinachau Eryri sydd rhaid gwneud os am dianc o’r dorf. 200 square kilometres of quiet and emptyness, the Carneddau are one of Eryri’s hidden secrets and a must-do if you want to get away from the crowds.

Llwybrau pellter hir / Long distance paths

  • Llwybr Llechi Eryri / Snowdonia Slate Trail – taith o gwmpas ardal llechi Gogledd-Orllewin Cymru – ardal a gafodd ei enwi’n ddiweddar yn safle treftadaeth byd-eang UNESCO. Dros 13 cymal byddwch yn teithio o gwmpas yr holl ardal, yn cyfuno hanes cloddio llechi gyda tirluniau anhygoel mynyddoedd Eryri. A multi-day walking tour around the slate mining area of Northwest Cymru – an area that was recently named a UNESCO world heritage site. Over 13 legs you’ll travel around the entire area, combining industrial history with the stunning mountain landscapes of Eryri.
  • Llwybr Arfordir Cymru / Wales Coast Path – Un o’r llwybrau cerdded hiraf yn y byd, 870 milltir o golygfeydd anhygoel. Os oes nad oes gennych yr amser gellir mynd am dro byrach fel cerdded o gwmpas arfordir Môn. The big daddy of all the long distance footpaths, 870 miles of incredible views. If you don’t have time for it all you could do shorter sections such as the Ynys Môn section.
  • Taith Pererin Gogledd Cymru / North Wales Pilgrim’s Way – ‘Camino Cymru’, 135 milltir yn dilyn olion yr hen bererinion o Abaty Dinas Basing yr holl ffordd i Ynys Enlli. The ‘Welsh Camino’, 135 miles following in the footsteps of the ancient pilgrims from Basingwerk Abbey to Ynys Enlli (Bardsey Island).

Mwy o syniadau / More ideas